Ar draws pedair canolfan yng Nghymru, mae’r Urdd yn cynnig tripiau ysgol sy’n llawn antur, dysgu, a phrofiadau newydd. Gall disgyblion fwynhau gweithgareddau awyr agored yn Llangrannog a Glan-llyn, archwilio natur a lles ym Mhentre Ifan, neu ddarganfod diwylliant a hanes y brifddinas o’r gwersyll yng Nghaerdydd. Mae ymweliadau diwrnod ac arosiadau preswyl ar gael i ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda phob rhaglen wedi’i llunio o amgylch eich disgyblion.