Mi fydd cast o dros 100 o bobl ifanc, rhwng 15 a 25 mlwydd oed ac o bob cwr o Gymru, yn perfformio’n y sioe gyda band byw. Bydd cyfleoedd hefyd i bobl ifanc weithio ar bob elfen o’r gwaith llwyfan, yn cynnwys gwaith technegol, cynllunio a gwisgoedd. Caiff y bobl ifanc eu mentora trwy’r broses o greu’r sioe gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol yn y maes.