Beth yw Eisteddfod yr Urdd?

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid flynyddol Cymru, lle mae plant a phobl ifanc yn cystadlu, yn perfformio ac yn creu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae’n llawer mwy na chystadleuaeth. Am wythnos gyfan, mae’r Maes yn llawn cerddoriaeth, gweithgareddau, perfformiadau, bwyd a phethau i’w gweld a’u gwneud.

P’un a wyt ti’n cystadlu, yn cefnogi rhywun neu’n ymweld am y dydd, mae croeso i ti fod yn rhan ohoni.

Pa gystadlaethau sydd ar gael?

Mae canu corawl a pherfformiadau unigol yn rhan fawr o’r Eisteddfod, ond mae llawer mwy i’w ddarganfod. Gelli di gystadlu mewn:

Cystadla’n unigol, mewn deuawd, grŵp neu gôr, neu drwy chwarae offeryn.

Dangos dy dalent drwy ddawns, drama, theatr gerdd neu berfformiad grŵp.

Crea gerddi, straeon, sgriptiau neu gerddoriaeth wreiddiol.

Rhanna dy greadigrwydd drwy gelf, ffotograffiaeth, dylunio a gwaith digidol.

Rho dy sgiliau coginio ar brawf drwy heriau creadigol i wahanol oedrannau.

Crea ffilmiau byr, animeiddiadau neu gynnwys digidol sy’n dod â syniadau’n fyw.

Beth yw’r broses o gystadlu?

Nid dim ond yn ystod wythnos yr ŵyl mae’r Eisteddfod yn digwydd. Mae miloedd o blant a phobl ifanc yn dechrau cystadlu mewn eisteddfodau lleol ledled Cymru fisoedd ynghynt.

Edrycha drwy’r Rhestr Testunau, dewisa gystadleuaeth ac ymarfer dy ddarn neu baratoi dy waith.

Dyma’r rownd leol gyntaf. Cynhelir Eisteddfodau Cylch mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae cystadleuwyr llwyddiannus yn symud ymlaen i gynrychioli eu Cylch yn yr Eisteddfod Rhanbarth.

Gwahoddir enillwyr y rowndiau rhanbarthol i gystadlu ar lwyfannau’r ŵyl genedlaethol.

Cwestiynau cyffredin

Nac oes. Mae croeso i bawb ymweld â’r Maes, gwylio’r cystadlaethau a mwynhau’r gweithgareddau.

Nac oes. Mae croeso i bawb ymweld â’r Maes, gwylio’r cystadlaethau a mwynhau’r gweithgareddau.

Mae angen aelodaeth i gystadlu, ond nid oes angen bod yn aelod i brynu tocyn ac ymweld â’r Maes.

Mae croeso mawr i ddysgwyr. Mae cystadlaethau penodol, adnoddau a darnau gosod ar gael i gefnogi pobl sy’n dysgu’r Gymraeg.

Nage. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl ieuenctid sy’n cael ei threfnu gan Urdd Gobaith Cymru. Digwyddiad ar wahân yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, er bod y ddwy yn dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

plant yn chwifio breichiau yn mwynhau sioe yn yr eisteddfod

Eisteddfod i bawb

Does dim angen bod yn berfformiwr profiadol nac yn siaradwr Cymraeg rhugl i gymryd rhan.

Mae cystadlaethau ar gyfer gwahanol oedrannau, galluoedd a diddordebau, gan gynnwys cystadlaethau penodol i ddysgwyr. Mae modd cystadlu drwy ysgol, Adran, Aelwyd neu fel unigolyn, yn dibynnu ar y gystadleuaeth.

Ac os nad wyt ti eisiau cystadlu, tyrd draw i fwynhau’r ŵyl, cefnogi’r cystadleuwyr a chael blas ar y Gymraeg ar ei mwyaf bywiog.

eisteddfod

Barod i fod yn rhan ohoni?

Cystadla, perfformia, crea neu tyrd draw am y dydd. Mae dy daith Eisteddfod yn dechrau yma.