Amdanom ni

Mae Gwersyll Caerdydd wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, dan do Canolfan Mileniwm Cymru ac union gyferbyn â’r Senedd.

Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i ganol y ddinas a chysylltiad cyfleus i’r M4, mae’r llety 4* yn leoliad delfrydol ac unigryw ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Cyfleusterau

Mae Gwersyll Caerdydd wedi’i leoli ym Mae Caerdydd, dan do Canolfan Mileniwm Cymru ac union gyferbyn â’r Senedd.

Mae’r neuadd yn ystafell amlbwrpas sy’n addas ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, megis cynadleddau busnes, seminarau hyfforddi, gwaith ffilmio, i ymarferion cerddorfeydd a chorawl. Ar ffurf theatr, gellir eistedd hyd at 153 o bobl. Mae goleuadau theatr, system sain, a thaflunydd digidol ar gael yno.

Gellir defnyddio y Neuadd fel stiwdio. Mae gan y Neuadd fynediad uniongyrchol i’r doc llwytho y tu allan. Mae ganddi hefyd nodweddion fel pibellau cludo i hwyluso mynediad cebl o’r doc llwytho ac o’r oriel.

Mae dewis o sawl ystafell llai. Mae’r ystafell gyfarfod yn dal hyd at 14 o bobl. Mae gennym ddwy ystafell ddosbarth sy’n dal tua 20 o unigolion yr un, a gellir ei agor er mwyn creu un ystafell fawr sy’n dal 40. Mae pob un o’n hystafelloedd yn Teams-ready, gyda chamerâu, meicroffonau nenfwd, a sgriniau rhyngweithiol.

Llety & Arlwyo

Mae ein hystafelloedd aml-wely yn berffaith ar gyfer cynadleddau a chyrsiau hyfforddiant corfforaethol, a gallwn drafod pecynnau llety addas i ateb eich gofynion.

Gall hyd at 153 o bobl aros ar gwrs preswyl, ac mae ein cyfleusterau cyfarfod yn gweddu’n berffaith i’r cyfleusterau hyn.

Gall y gwersyll gynnig dewis eang o luniaeth, boed hynny’n baned a bisged neu’n bryd bwyd tri chwrs. A darparu ar gyfer unrhyw anghenion bwyd, dietegol neu grefyddol, a gellir trafod yr holl ofynion yma gyda ni.

Os ydych chi’n mynychu’r Gwersyll ar gyfer cyfarfod, gallwn ddarparu lluniaeth ar gyfer digwyddiad o unrhyw faint.

 

Children jumping off a SUP into the lake in Glan-llyn

Gwersylloedd

Edrychwch ar ein canolfannau preswyl a pha weithgareddau rydyn ni’n eu cynnig