Pecynnau dyddiol a phreswyl ar gael

Wedi’i leoli ar lan Llyn Tegid ger Y Bala (ym Mharc Cenedlaethol Eryri), mae Glan-llyn yn leoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod staff neu corfforaethol nesaf chi.

Gall ein tîm profiadol o staff ddarparu’r diwrnod corfforaethol perffaith ar eich cyfer, wedi’i deilwra i’ch anghenion chi.

Datblygwch sgiliau eich gweithle yng Nglan-llyn…

  • Adeiladu tîm
  • Datrys problemau
  • Lles
  • Cymhelliant a chyd-weithio
  • Codi hyder

Eich diwrnod corfforaethol

Rydym yn deall pwysigrwydd gofalu am eich gweithlu.

Mae ein diwrnodau adeiladu tîm yn cynnig llawer o fanteision gan gynnwys, gwella cymhelliant, cydweithio, cyfathrebu, morâl, sgiliau gwneud penderfyniadau, creadigrwydd a lles.

Rydym yn cynnig opsiynau hanner diwrnod, diwrnod llawn a phreswyl, gan gynnwys:

  • Llety cyfforddus
  • Pecynnau arlwyo
  • Amserlen gweithgareddau wedi’u teilwra

  • Gweithgareddau’r gwersyll
  • Darlithfeydd
  • Ystafelloedd cyfarfod gydag offer technegol
  • Neuadd fwyta
  • Llety neu ardal wersylla
  • BBQ a ffwrn pizza tu allan
  • Pwll nofio

Mae nifer o ddewisiadau ar gael yn amrywio o fwffe sylfaenol i fwydlen foethus.

Pecynnau preswyl ar gael gyda’r gwersyll yn cysgu hyd at 240.

Cysylltwch

Pecynnau dyddiol a phreswyl ar gael. Cysylltwch i drafod eich anghenion a chyllideb.