Beth yw gwaith rhyngwladol yr Urdd?
Mae Tîm Rhyngwladol yr Urdd, sy’n rhan o’r Adran Cyfathrebu a Rhyngwladol, yn creu cyfleoedd i aelodau brofi’r byd, cynrychioli Cymru a ffurfio cysylltiadau â phobl ifanc mewn gwledydd eraill.
Mae’r gwaith yn llawer mwy na theithio. Drwy bartneriaethau â mudiadau ieuenctid, elusennau, prifysgolion a chymunedau ledled y byd, mae aelodau’n cael cyfleoedd i berfformio, gwirfoddoli, dysgu, rhannu’r Gymraeg a chydweithio ar draws ieithoedd a diwylliannau.