Beth yw gwaith rhyngwladol yr Urdd?

Mae Tîm Rhyngwladol yr Urdd, sy’n rhan o’r Adran Cyfathrebu a Rhyngwladol, yn creu cyfleoedd i aelodau brofi’r byd, cynrychioli Cymru a ffurfio cysylltiadau â phobl ifanc mewn gwledydd eraill.

Mae’r gwaith yn llawer mwy na theithio. Drwy bartneriaethau â mudiadau ieuenctid, elusennau, prifysgolion a chymunedau ledled y byd, mae aelodau’n cael cyfleoedd i berfformio, gwirfoddoli, dysgu, rhannu’r Gymraeg a chydweithio ar draws ieithoedd a diwylliannau.

Beth mae’r tîm yn ei wneud?

Creu cyfleoedd

Profiadau sy’n magu hyder, annibyniaeth, sgiliau newydd a dealltwriaeth ehangach

Rhannu Cymru â’r byd

Cynrychioli Cymru, y Gymraeg a’n diwylliant mewn gwyliau, prosiectau a digwyddia

Meithrin partneriaethau

Cydweithio â sefydliadau a chymunedau tramor i greu cysylltiadau sy’n para y tu

Traddodiad rhyngwladol ers bron i ganrif

Mae edrych y tu hwnt i Gymru wedi bod yn rhan o weledigaeth yr Urdd ers ei blynyddoedd cynnar. Yn 1933, hwyliodd aelodau’r Urdd o Gymru i ogledd Ewrop, ac yn 1948 cynhaliwyd gwersyll rhyngwladol cyntaf yr Urdd yn Aberystwyth.

Roedd yr Urdd hefyd ymhlith y sefydliadau cyntaf i groesawu pobl ifanc o’r Almaen ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Heddiw, mae’r un ysbryd o gyfeillgarwch a chyfnewid diwylliannol yn parhau drwy brosiectau ledled y byd.

Blue Urdd flag in front of the Wales Millennium Centre

Sut alla i gymryd rhan?

Mae pob prosiect yn wahanol. Gall cyfleoedd fod ar gyfer aelodau’r Urdd, gwirfoddolwyr, staff ifanc, perfformwyr neu enillwyr cystadlaethau penodol.

A group of volunteers enjoying with a class of children on an international trip

Oes gennych chi gwestiwn neu syniad?

Os hoffet ti wybod mwy am gyfle, neu os yw dy sefydliad eisiau trafod partneriaeth ryngwladol gyda’r Urdd, cysyllta â’r tîm