Mae Adran Brentisiaethau’r Urdd yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw, sy’n cynnig prentisiaethau o safon ers 2014. Rydym yn arbenigo mewn rhaglenni Cymraeg a dwyieithog sy’n grymuso gweithluoedd ar draws y sectorau Chwaraeon, Gwaith Ieuenctid, yr Awyr Agored, Addysg a Gofal Plant. Ein nod yw meithrin sgiliau ymarferol, hyder proffesiynol a chyfleoedd datblygu gwirioneddol i ddysgwyr o bob oed a chefndir.
I gwblhau prentisiaeth, mae angen i ti fod yn gweithio i gyflogwr neu ar fin cychwyn gweithio. Weithiau mae cyfle i gael dy gyflogi gan yr Urdd, ond fel arfer rwyt ti’n gweithio i unrhyw un o’n partneriaid ar draws Cymru.
Does dim rhaid gweithio i’r Urdd i wneud prentisiaeth gyda ni!